Newyddion Cyffredinol.

Gweld yr holl newyddion cyffredinol diweddaraf a diweddariadau pwysig.


Darparu Toiledau Cyhoeddus yn Nhrefdreath yn y Dyfodol

Ystyriaeth gan Gyngor Tref Trefdraeth yn y Dyfodol Darparu Cyfleusterau Toiled Cyhoeddus ar 27 Mawrth 2023.

Cyfarfu Cyngor Tref Trefdraeth ar y 27ain o Fawrth 2023 a thrafod amryw gyfathrebu/e -byst ynghylch darparu toiledau cyhoeddus yn ardal Trefdreath.

Yna cymeradwywyd llythyr a’i anfon at y bobl berthnasol.

Cliciwch y ddolen i weld y llythyr hwnnw.


Cymdeithas Sefydliadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro

Cymdeithas Sefydliadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro

Angen gwirfoddolwyr ar frys!

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am yrwyr ceir a bysiau mini gwirfoddol a chyfeillion bws (na fydd yn gyrru) ar hyd a lled Sir Benfro.


Côr Cymunedol.

Côr Cymunedol

Cerddoriaeth yn y Maenordy, Ddydd Gwener Mai 13eg 2022 7.00yp yn Maenordy Scolton.

Cliciwch yma am fwy o fanylion.


Mae Dy Bleidlais Yn Cyfri. Paid Colli Dy Gyfle.

Os wyt ti’n 16 oed neu’n hyn ac yn byw yng Nghymru, gelli di nawr bleidleisio yn yr etholiadau lleol sydd i ddod.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich pleidlais, cliciwch yma.


Dogfen Cyn-ymgynghori ar gyfer Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr drafft Dŵr Cymru 2024

Bob pum mlynedd rydym yn datblygu ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr (WRMP) sy’n nodi sut y byddwn yn rheoli ein cyflenwadau dŵr ar draws ein hardal gyflenwi i ddiwallu anghenion presennol ac yn y dyfodol, dros y 25 mlynedd nesaf. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu ein Cynllun nesaf (WRMP24) ar gyfer y cyfnod 2025 – 2050 a heddiw rydym yn lansio’r ymgynghoriad hwn i roi cyfle i chi – un o’n rhanddeiliaid allweddol – roi eich barn ar yr hyn sy’n cael ei ystyried yn elfennau allweddol ar gyfer datblygu ein Cynllun a’r meysydd blaenoriaeth y dylai geisio ymdrin â nhw.

Bydd y rhag-ymgynghoriad yn rhedeg tan 21 Mawrth 2022, anfonwch unrhyw sylwadau at Water.Resources@dwrcymru.com

Cliciwch yma am lythyr cyn-ymgynghori.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth ategol cyn yr ymgynghoriad.


Y Grant Caledi Tenantiaeth.

Os ydych chi’n rhentu eiddo preifat neu dai cymdeithasol a’ch bod ar ei hôl hi o ran eich rhent oherwydd COVID-19,
efallai y byddwch yn gymwys i gael grant newydd gan Lywodraeth Cymru.

Cliciwch yma am fwy o fanylion.

08/02/22



Cronfa Cysylltiadau Awyr Agored Newydd.

Pecyn cais yn barod yn fuan…Arian i gymunedau er mwyn iddynt wella mannau yn yr awyr agored i bobl hŷn! Gall grwpiau yn Sir Benfro wneud cais am hyd at £1,500 am eitemau cyfalaf fel seddau/ offer er mwyn gwella lle a gwella lles corfforol a meddyliol. Gofrestru eich diddordeb nawr!

E-bostiwch os gwelwch yn dda development@pavs.org.uk

09/01/22


Map Hawliau Tramwy Cyhoeddus Newydd Ar Gyfer Sir Benfro.

MAP HAWLIAU TRAMWY CYHOEDDUS NEWYDD AR GYFER SIR BENFRO NAWR AR-LEIN

Gall aelodau o’r cyhoedd bellach weld yn hawdd yr hawliau tramwy cyhoeddus mae ganddynt fynediad iddynt yn eu hardal ac ymhellach i ffwrdd yn Sir Benfro, diolch i fap rhyngweithiol newydd. Gyda’r teitl Map Hawliau Tramwy Cyhoeddus diffiniol, mae’n caniatáu i ddefnyddwyr weld llwybrau troed a llwybrau ceffylau ledled y sir, yn ogystal â chilffyrdd cyfyngedig a chilffyrdd sy’n agored i bob traffig.

Nodwedd ddefnyddiol yw, os bydd defnyddwyr yn clicio ar lwybr, bydd yn dangos ei rif adnabod ac felly os oes ganddynt unrhyw bryderon neu os ydynt am drafod llwybr bydd ganddynt y rhif adnabod wrth law. Bydd hefyd yn eu dangos os bu unrhyw addasiad i’r llwybr ers i’r map diffiniol cyfunol gael ei gynhyrchu yn 2012. Cynhyrchwyd y map newydd gan y timau TG a GIS yng Nghyngor Sir Penfro. 

Gellir ei weld ar wefan Cyngor Sir Penfro trwy glicio yma.


Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.