Grwpiau a Gweithgareddau

Isod fe welwch wybodaeth am y grwpiau a’r gweithgareddau canlynol:

  • Llyfrgell Gymunedol Trefdraeth
  • Grwp Llwybrau Trefdaeth
  • Grwp Trafod Cyffredinol Gogledd Sir Benfro.
  • Canolfan Wybodaeth Trefdraeth
  • Clwb Tennis Trefdraeth.
  • Cymdeithas Gychod Afon Nyfer a Harbwr Trefdraeth.
  • Marchnad Cynnyrch Trefdraeth

Llyfrgell Gymunedol Trefdraeth

Mae Llyfrgell Gymunedol Trefdraeth, sydd wedi’i lleoli yn y Canolfan Crooeso ar stryd hir, yn cael ei rhedeg gan Weithgor Llyfrgell Trefdraeth (elusen gofrestredig) mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro. Mae ein horiau agor ar hyn o bryd yn:

Dydd Llun 9.30yb i 12.30yp gyda gwirfoddolwyr

Dydd Mercher 12.30yp i 6.00 yp gyda llyfrgellydd

Dydd Sadwrn 9.30yb i 12.30yp gyda gwirfoddolwyr.

Am fwy o wybodaeth e -bostiwch Newportpembslibrary@gmail.com neu ffoniwch 01437 776651.

Gweler ein tudalen Facebook https://www.facebook.com/newportpembslibrary


newport coast

Grwp Llwybrau Trefdaeth

Gwirfoddolwyr yw Grŵp Llwybrau Trefdraeth sy’n ceisio gwella mynediad i gefn gwlad o gwmpas Trefdraeth ar gyfer pawb.

Wedi ei sefydlu ym 1999, creodd y Grwp Daith Mileniwm Trefdraeth gyda paneli hysbysrwydd a theithdaflen. Mae’n dechrau ym Maes Parcio’r Parrog ac yn fan cychwyn taith gerdded hanner dydd gylchol hyfryd.

Ar gyfer y rhai sy’n hoffi rhywbeth hawddach, trefnodd y Grŵp Daith Gadair Olwyn rhwng Y Parrog â’r Cwm gyda phaneli hysbysrwydd a thaflen mewn orgraff fawr a Braille.

I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau a lluniau’r grŵp, cliciwch ar y ddolen isod.


Llwybrau Trefdraeth

O lannau aber Nanhyfer, i fyny llethrau Mynydd Carningli, i lawr cymoedd coediog ac allan i’r twyni tywod yn Nhraeth Mawr, mae’r
teithiau cerdded hyn yn cynnig amrywiaeth o olygfeydd hardd a chynefinoedd naturiol.

Er mwyn lawrlwytho map PDF o’r llwybr o amgylch Trefdraeth, cliciwch ar y ddolen isod.


Eu Gwaith

Prif waith y Grŵp yw torri’r glaswellt ar hyd llwybrau lleol yn ystod yr haf a gofalu amdanyn nhw yn ystod y gaeaf. Gall hyn olygu carthu nentydd, gosod cerrig neu raean, palu ffosydd neu adeiladu pontydd. Gweithiwn ni yn agos gyda pharcmyn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (PCAP).

Mae ein llwybrau’n gwneud rhwydwaith fendigedig.

Gellir lawrlwytho mapiau o lwybrau unigol o wefan PCAP.


Yn ogystal, ‘rydym yn rhoi cymorth i PCAP i ddiwreiddio Jac-y-Neidiwr sy’n goresgyn ac andwyo glannau Afon Nyfer ac Afon Clydach.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Jac y Neidiwr.

 


Mae’r Grŵp yn dibynnu ar aelodau sy’n wirfoddolwyr. Mae gan y Grŵp bwyllgor o aelodau a etholir yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gyda chynrychiolwyr o Gyngor Tref Trefdraeth a PCAP. Mae’r Cyngor a PCAP yn cefnogi’r Grŵp. Gall unrhyw un ymuno a helpu. Os hoffech chi ymuno neu dderbyn mwy o wybodaeth, cysylltwch ag un ohonom ni os gwelwch yn dda:

Richard Hughes – Cadeirydd: 01239 820103/rhughes11@btinternet.com
neu
Mark Taylor – Ysgrifennydd: 01239 821645/npgsec@gmail.com


Grwp Trafod Cyffredinol Gogledd Sir Benfro.

Cyfarfodydd cyfeillgar bob pythefnos. Rydym yn trafod amrywiaeth o bynciau megis llyfrau, teithio, cerddoriaeth, garddio… ‘Bywyd, y Bydysawd a Phopeth….’

Ymunwch â ni!

Cyswllt a Francie ar 01239 820694 neu Belinda on 01239 614156


Canolfan Wybodaeth Trefdraeth yn Recriwtio Gwirfoddolwyr.

Mae Canolfan Groeso Trefdraeth yn Stryd Hir wedi bod yn mynd ers 3 blynedd! Rydym yn gweithio i gefnogi economi Trefdraeth. Rydyn ni’n rhannu’r holl bethau gwych sydd gan Drefdraeth i’w cynnig gyda’n hymwelwyr, yn hysbysebu digwyddiadau lleol a gwybodaeth gymunedol ac mae gennym ni siop hyfryd yn gwerthu nwyddau Sir Benfro.

Dewch i ymuno â’n tîm hyfryd i gyfarch a helpu ein hymwelwyr. Mae gennym yr holl wybodaeth yno, felly peidiwch â phoeni efallai nad ydych yn gwybod digon. Mae gennym wirfoddolwyr o bob cefndir ac oedran – rhai ag arbenigedd penodol a rhai sy’n mwynhau cyfarfod a helpu pobl. Dewch i ymuno â ni!

cysylltwch â: janowilliamsntc@icloud.com

Cliciwch yma am fwy o fanylion.

01/02/22


Clwb Tennis Trefdraeth.

Mae Clwb Tennis Trefdraeth yn croesawu chwaraewyr o bob oed a safon ac mae Aelodaeth yn agored i drigolion ac ymwelwyr. Sefydlu yn 1984 mae gan y clwb 2 lys caled premiwm a wynebwyd yn ddiweddar ac mae’n lleoliad achrededig LTA

Mae’r Clwb yn cynnig amrywiaeth o becynnau aelodaeth :

Oedolyn, cyplau, teulu, person ifanc a thymor byr.

Gall aelodau archebu gwersi gyda’n Hyfforddwr LTA lefel 4 . Mae’r Clwb yn gweithredu system archebu ar-lein ac, wrth ddod yn aelod, byddwch yn gallu archebu llysoedd drwy wefan LTA ClubSpark lle cewch gyfarwyddiadau llawn.


Cymdeithas Gychod Afon Nyfer a Harbwr Trefdraeth.

Mae rheolaeth y mwrins rhwng llanw isel a llanw llawn yng ngofal y Gymdeithas trwy les a ddarpwyd gan Gomisiynwyr y Goron.

Mae mwrins y Gymdeithas ar aber yr Afon Nyfer o’r Bont i Garreg Garman wrth lygad yr afon. Mae’r lleoliad yn un o’r mwyaf gogoneddus yng Ngogledd Sir Benfro.


Marchnad Cynnyrch Trefdraeth

Marchnad cynnyrch leol yn hyfryd Trefdraeth bob dydd Llun o 9-1 gyda dros 13 o stondinau yn cynnig popeth y gallai fod ei angen arnoch o lysiau lleol, cacennau ffres, wyau, bara, caws, jam, finegr seidr, hufenau wedi’u seilio ar fêl, Pysgod, clustogau, cardiau cyfarch, gemwaith, cynhyrchion/fegan bwyd iach, cynhyrchion alpaca a chigoedd Carn Edward.