
|
|
|
Ysgol gynradd gymunedol yw Ysgol Bro Ingli gydag adrannau addas i blant meithrin (rhan amser) ac i ddisgyblion iau a babanod i fechgyn a merched. Ceir hefyd uned feithrin Gymraeg wirfoddol yng ngofal Mudiad Ysgolion Meithrin. Mae dalgylch yr ysgol yn ymestyn o Drefdraeth i Nanhyfer, Felindre Farchog, Dinas a’r wlad oddi amgylch. Tra bo lle ar gael, derbynnir plentyn rhan amser y tymor wedi ei drydydd penblwydd. Caiff fynychu’r ysgol hyd at bump cyfnod yr wythnos. Caiff disgyblion eu derbyn yn llawn amser y tymor wedi eu pedwerydd penblwydd, tra bo lle yn caniatau. Yn y Medi wedi’r seithfed penblwydd fe fydd y plant yn gadael yr adran fabanod ac yn symud i’r adran iau. Yn un-ar-ddeg oed fe fydd y plant, fel arfer, yn trosglwyddo i, gan amlaf, naill ai Ysgol Ddwyieithog y Preseli, Crymych neu i Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun. Agorwyd yr adeilad presennol ym mis Chwefror 1993. Cynllun rhannol agored sydd yma gyda’r uned feithrin a’r adran fabanod i un ochr o’r ganolfan adnoddau a’r adran iau i’r ochr arall. Defnyddir y neuadd ddeniadol at wasanaeth boreol, rhai gwersi a phrydau bwyd canol dydd. Bydd y neuadd yn cael ei defnyddio gan Mudiad Ysgolion Meithrin rhai boreau’r wythnos. I’r dwyrain o’r adeilad mae iard chwarae eang gyda cae chwarae ar bwys. Cynlluniwyd yr ysgol gogyfer 120 o blant. Trefnir y dosbarthiadau yn ôl oedran. Amserau agor ar chau Mae’r ysgol yn dechrau am 9 o’r gloch y bore. Cynhelir gwasanaeth boreol o leiaf bedair gwaith yr wythnos, Bydd pob plentyn yn rhan o’r gwasanaeth yma oni ddewisir yn wahanol am resymau crefyddol gan riant. Bydd staff yn arolygu’r plant am 15 munud cyn ac hefyd ar ôl y diwrnod ysgol swyddogol. Ni ddylai plant gyrraedd yr ysgol cyn 8.45a.m. ac fe ddylent fod wedi gadael erbyn 3.45 p.m. Sesiwn y bore: 9.00 y.b. – 12.00 Sesiwn y prynhawn: 1.00 –3.30 y.p. Rydyn yn falch o’n ffigyrau presenoldeb. Rydyn hefyd yn falch o weld y plant yn cyrraedd yn brydlon tua 8.50 y bore. Gwybodaeth CyffredinolEnw’r Ysgol: Ysgol Bro Ingli Pwyllgor Addysg: Pwyllgor Addysg Sir Penfro Cyfeiriad yr Ysgol: Heol Hir, Trefdraeth, Sir Benfro SA42 0TL Rhif Ffon: 01239 820682 Rhif Ffacs: 01239 820089 Math o Ysgol:Ysgol Gymunedol Sirol i hyd at 120 o blant 4 i 11 mlwydd oed. Pennaeth:Miss A. James Dirprwy Bennaeth: Mrs S. Clarke CORFF LLYWODRAETHOLCadeirydd: Mr Nick Dowsett Is-gadeirydd: Mrs Celia Bartlett Awdurdod lleol: Cyngh. Robin Evans, Mrs Elin Jones Cyngor Cymuned: Cyngh. D Paish Aelodau Cyfetholedig: Mr Richard Barlow, Mrs Celia Bartlett Rhieni: Mr Nick Dowsett, Mrs Rhona Edmonds a Ms Jackie Morris Athro: Mrs S. Clarke Pennaeth : Miss A. James |
|
| Newid Diwethaf ( MONDAY, 11 AUGUST 2008 12:22 ) |