Argraffu

LogoCadeirydd: David Vaughan
Ysgrifennydd: Janet Harwood
Cydlynydd y Cor Gwaith: Lis Evans

Ebost: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Gwirfoddolwyr brwdfrydig o bob oedran yw aelodau Gr?p Llwybrau Trefdraeth - sy'n gweithio i wella mynediad i gefn gwlad yn Nhrefdraeth ar gyfer pobol o bob gallu, ac i wella'r amgylchedd a dealltwriaeth pobl o'r amgylchedd.

Mae'n gr?p cymunedol â sefydlwyd ym1999 fel un o'r gweithgareddau i ddathlu'r milflwydd. Y canlyniad oedd Llwybr y Milflwydd yn Nhrefdraeth gyda byrddau gwybodaeth ac thaflen.

Yn dilyn hyn daeth Llwybr â Mynediad Hwylus o'r Parrog i'r Cwm gyda byrddau gwybodaeth a thaflen Braille.

 

 

O'r dechrau, un ymrwymiad pwysig oedd i sicrhau cynnal a chadw tymor hir o'r Llwybrau Cyhoeddus â lanhawyd ac a dderbyniodd gyhoeddusrwydd. Yn gweithio ar y cyd gyda Parcmyn Parc Cenedlaethol Arfordirol Sir Benfro, gwna'r gwirfoddolwyr waith cynnal a chadw a gwella llwybrau : torri tyfiant; gosod sticylliaid newydd ac yn y blaen; archwilio Llwybrau Cyhoeddus; cynllunio a pharatoi taflenni a byrddau gwybodaeth.

 

 

 

 

 

Mae'r Gr?p , sy'n derbyn cefnogaeth Cyngor Tref Trefdraeth, yn cael ei reoli gan bwyllgor o wirfoddolwyr a chynrychiolwyr. Mae cymryd rhan gyda brwdfrydedd wrth galon gwaith y Gr?p, a gellir cynnig hyfforddiant yn ol y gofyn.

Mae aelodaeth o'r Gr?p yn agored i bawb sy'n cefnogi ei amcanion.

Gobeithiwn y bydd y manylion hyn yn rhoi sbardun i chi ymuno â'r Gr?p fel aelod gweithgar, ac edrychwn ymlaen i'ch gweld yn y dyfodol agos. Gall eich ymrwymiad fod gymaint neu cyn lleied ag y dymunwch.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Neu ebostiwch Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Newid Diwethaf ( MONDAY, 05 JULY 2010 13:05 )