boat_club.jpg
Cymraeg

About Newport

Latest Events

No events

Login Form



Home

Latest News

 
 
 

 
Newport Town Web Site
We are looking for volunteers to help with the translation of the Newport Town Website into Welsh in order to provide a bi-lingual facility.  Anyone able to offer their skills please contact the Town Clerk Mrs Janet Weston on 01239 820920

Gwefan Tref Trefdraeth
Rydyn ni'n edrych am wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda chyfieithu gwefan Tref Trefdraeth i mewn i'r Gymraeg er mwyn creu adnodd dwy ieithog. Os oes rhywun a all gynnig ei sgiliau cyfieithu, cysylltwch a Chlerc y Dref, Mrs Janet Weston ar 01239 820920


PDF Argraffu Ebost

Newport Castle

Mae Trefdraeth yn dre brydferth ar lan y môr rhwng Abergwaun ac Aberteifi ar yr A487. Mae castell ac eglwys Normaniaidd uwch ben y dref wrth droed mynnydd Carn Ingli.

Mae llwybrau cylchiol yn mynd o'r dref i gopa Carn Ingli lle mae golygfeydd bendigedig tua Eryri, Mynyddoedd Wicklow a Phen Ty Ddewi. Mae cyfoeth o blanhygion gwyllt a childraethau cyfrinachol ar Lwybr Arfordir Sir Benfro.

Mae Trefdraeth yn unigryw oherwydd ei safle ar ffin Bryniau Preseli ac mae'n ganolfan berffaith i chwilio am y cromlechi Geltiaidd yn yr ardal.

Mae traeth Trefdraeth yn hir ac yn euraidd ac mae'n lle delfrydol i nofio, gwneud windsurfing, hywlio a chanwïo. Mae pethau eraill i'w gwneud yn cynnwys golf, tennis, reidio ceffylau, pysgota a gwylio ardar.

 

View Over Newport

Mae nifer o siopau, orielau celf, siopau crefft, siopau hen bethau, siopau llyfrau a siopau coffi yn y dref. Mae bwytau a tharfannau yn cynnig dewis eang o fwyd gan gynnwys sewin lleol, brithyll o'r mor, cimwch a chranc.

Dro ar ôl dro mae ymwelwyr yn dychwelyd yma am yr heddwch a'r tawelwch, am yr hen lonydd bach sy'm mynd igam-ogam tua'r mor, am y golygfeydd ardderchog o'r mor ac am y croeso cynnes a gewch chi gan y trigolion.

 

Newid Diwethaf ( MONDAY, 02 NOVEMBER 2009 16:32 )
 
Please update your Flash Player to view content.

Polls

Parking for local residents at Traeth Mawr
 

Who's Online

Mae gennym 39 o westeion arlein